
Castell Caerdydd
castell caerdydd yn ddiamau yw un o brif atyniadau cymru. yn union
yng nghanol y ddinas, nesaf at barc bute a siopau'r canol dinas,
to ôl i dyrau tylwyth teg castell caerdydd mae tu mewn cywrain
ac ysblennydd. mae'i hanes yn rhychwantu bron 2,000 o flynyddoedd,
gan gychwyn gyda dyfodiad y rhufeiniaid yn y ganrif gyntaf oed
crist. adeiladwyd gorthwr y castell yn dilyn y goncwest normanaidd,
ac ychwanegwyd nifer o wrthgloddiau ac aneddleoedd yn y canrifoedd
dilynol. o 1866 gweddnewidiodd y pensaer william burgess y lletyau
gan wneud y tu mewn yn wledd i'r llygad gyda'r cyfoeth o furluniau,
gwydr lliw, marmor, eurwaith a cherfluniau cywrain. mae i bob ystafell
yng nghastell caerdydd ei thema arbennig ei hun a haedda ymweliad
hamddenol i ddrachtio'i odidowgrwydd.
ynghyd ag ymweld â thu mewn y castell, gall ymwelwyr fwynhau
tiroedd y castell lle mae peunod, hwyaid a gwyddau yn crwydro'n
rhydd. neu, mwynhewch seibiant yn ystafelloedd te'r castell am
goffi, ciniawau ysgafn a the prynhawn. yn olaf, ymwelwch â'r
siop anrhegion wrth y brif fynedfa am gofarwydd unigryw o ysblander
castell caerdydd. yn well fyth nid yw ond awr o daith o westy brenhinol
caerdydd, gan wneud y diwrnod yn un arbennig a chyfleus ar ei hyd
neu'n antur byr i'r gwesteion.
rydym yn rhedeg nifer o gynigion arbennig drwy'r flwyddyn. os
oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw becynnau arbennig neu brisiau,
cliciwch yma am ein tudalen o gynigion arbennig, e-bostiwch ni
ar enquiries@theroyalhotelcardiff.com neu
rhowch ganiad i ni ar 02920 550 750.
|