Cardiff International Arena near The Royal Hotel - Cardiff

spacer
hafanu
ystafelloedd
digwyddiadau a phriodasau yn y gwesty
bwyta ac yfed
prisiau'r gwesty
lleoliad y gwesty
cynigion arbennig
llogi lle yn y gwesty
cysylltu â ni
Arena Rhyngwladol Caerdydd

Calon Caerdydd
Bae Caerdydd/Mermaid Quay

 

mae bae caerdydd, unwaith yn borthladd allforio glo mwyaf y byd, nawr yn ganolfan hamdden fodern a, chyda mermaid quay, yn ddatblygiad glan dwr mwyaf ewrop. cynigia bae caerdydd gyfoeth o weithgareddau hamdden sydd ar gael yn ac oddi ar y dwr, ac mae'n gyrchfan ardderchog i unrhyw un sy'n ceisio adloniant, cyffro a phrydferthwch naturiol ergyd carreg o'r gwesty nodedig, gwesty brenhinol caerdydd.

 

mae'r harbwr ym mae caerdydd yn profi un o amrediadau llanw mwyaf y byd: hyd at 14 medr! cwblhawyd yr argae sy'n dileu effeithiau'r llanw, ym 1999 gan greu llyn dwr croyw 500 erw, 8 milltir o lan dwr a sbarduno datblygiad parhaus y bae fel cyrchfan hamdden.

 

mae nifer o deithiau cychod yn cychwyn o mermaid quay, gan ddarparu teithiau addysgol sy'n cynnig dealltwriaeth o hanes a ffawna'r ardal gyffrous hon. mae bws dwr caerdydd wedi cyflwyno gwasanaeth tacsi newydd sy'n gweithredu drwy gydol y flwyddyn o fae caerdydd i'r canol dinas a phenarth.

 

mae bae caerdydd hefyd yn gartref i nifer o atyniadau fel canolfan darganfyddiadau gwyddonol techniquest, crefft yn y bae, cynulliad cymru yn y pen pier, canolfan hanes a chelf butetown, goleulong 2000, canolfan gelf yr eglwys norwyaidd a chanolfan newydd sbon mileniwm cymru. wrth gwrs, mae mermaid quay, y ganolfan siopa a bwyta gyda dros 200 o fwytai sy'n gweini bwydydd o wahanol rannau o'r byd, ac amrywiaeth o siopau soffistigedig.

 

os ydych yn anelu am fae caerdydd, neu mermaid quay, gall y gwesty brenhinol caerdydd gynnig i chi gyfuniad coeth o ysblander urddasol cyfnod a chynllun braf cyfoes. fel canolfan i fwynhau lliaws atyniadau caerdydd, mae gwesty brenhinol caerdydd wedi'i leoli'n berffaith yng nghalon y ddinas, lai na milltir i ffwrdd o'r bae.

 

rydym yn rhedeg nifer o gynigion arbennig drwy'r flwyddyn. os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw becynnau arbennig neu brisiau, cliciwch yma am ein tudalen o gynigion arbennig, e-bostiwch ni ar enquiries@theroyalhotelcardiff.com neu rhowch ganiad i ni ar 02920 550 750.

 llinell archebu: 02920 550 750  theroyalhotel - st mary street - cardiff - cf10 1dw