
Theatr Newydd
y theatr newydd yw prif leoliad llwyfan caerdydd ar gyfer dramâu,
opera, sioeau cerdd, bale a mwy. mae opera cenedlaethol cymru yn
rheolaidd yn ymddangos ar lwyfan y theatr newydd gan gyflwyno perfformiadau
campus. addurnir yr awditoriwm yn frenhinol â thaseli lliw
gwin, fframiau euraid gan greu tu mewn trawiadol ac urddasol. yn
ddiweddar adnewyddwyd y bar yn ogystal, tra bod bwyty'r cylch ar
agor yn ddyddiol o hanner dydd tan 2 y prynhawn ar gyfer cinio,
byrbrydau ysgafn neu ddim ond te neu goffi. mae'r theatr newydd
hefyd yn cynnal cynhyrchiadau pantomeim sy'n denu'r dorf bob tymor
y nadolig.
os ydych yn chwilio am adloniant gyda''r nos tra rydych yn aros
yng nghaerdydd, mynnwch gipolwg ar wefan y theatr newydd ar www.newtheatrecardiff.co.uk/english i
gael rhestr o'r cynhyrchiadau. dim ond milltir i ffwrdd mae'r theatr
newydd, 5 munud ar dacsi neu daith gerdded o lai nag 20 munud,
o'r gwesty brenhinol caerdydd, gan ei gwneud yn noson allan ardderchog
a chyfleus ar gyfer nifer o'n gwesteion.
rydym yn rhedeg nifer o gynigion arbennig drwy'r flwyddyn. os
oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw becynnau arbennig neu brisiau,
cliciwch yma am ein tudalen o gynigion arbennig, e-bostiwch ni
ar enquiries@theroyalhotelcardiff.com neu
rhowch ganiad i ni ar 02920 550 750.
|