
Theatr y Sherman
theatr y sherman yw un o brif leoliadau llwyfan caerdydd. mae'n
gartref i gwmni theatr y sherman sy'n cynhyrchu ystod eang o gynhyrchiadau
bob blwyddyn, gan gynnwys theatr i bobl ifanc, addasiadau dyfeisgar
o ddramâu clasurol a phrosiectau ysgrifennu newydd. mae hefyd
yn croesawu cwmnïau celfyddydau perfformiadol a digrifwyr
o'r radd flaenaf sy'n cyflwyno rhaglen amrywiol o safon uchel iawn.
cyfeiria theatr y sherman ato'i hun fel 'mwy na dim ond theatr',
gan eu bod yn rhoi cyfle i theatr ieuenctid gyda gweithdai i ddatblygu
doniau perfformwyr ifanc ac mae ganddynt aden hyfforddi, partneriaid â'r
arbenigedd ddiweddaraf, i gynorthwyo busnesau i ddatblygu gwell
timoedd a sgiliau cyfathrebu.
os ydych yn chwilio am adloniant gyda'r nos tra rydych yn aros
yng nghaerdydd, mynnwch gipolwg ar wefan theatr y sherman ar www.shermantheatre.co.uk am
restr o'r cynhyrchiadau. dim ond milltir a hanner i ffwrdd mae
theatr y sherman, 5 munud ar dacsi neu daith gerdded 20 munud,
o'r gwesty brenhinol caerdydd, gan ei gwneud yn noson allan ardderchog
a chyfleus ar gyfer nifer o'n gwesteion.
rydym yn rhedeg nifer o gynigion arbennig drwy'r flwyddyn. os
oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw becynnau arbennig neu brisiau,
cliciwch yma am ein tudalen o gynigion arbennig, e-bostiwch ni
ar enquiries@theroyalhotelcardiff.com neu
rhowch ganiad i ni ar 02920 550 750.
|